Y TENOR CYMRAEG
THE WELSH TENOR

Croeso i wefan swyddogol Aled Wyn Davies


Mae Aled Wyn Davies wedi dod yn enw cyfarwydd iawn i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig mae ganddo lais tenor unigryw ond mae ganddo hefyd y ddawn brin honno o ddefnyddio'i lais i swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru a'r byd.

Cychwynnodd ei yrfa fel canwr gwerin ond ar ôl ennill y prif wobrau dechreuodd dorri ei gwys ei hun fel tenor o'r radd flaenaf. Enillodd yr unawd tenor deirgwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yna, yn 2006, coronwyd ei ymdrechion i gyd pan gipiodd y Rhuban Glas ym Mhrifwyl Abertawe. Erbyn hyn, mae yn wyneb a llais cyfarwydd iawn ar lwyfannau, radio a theledu ac mae galw mawr amdano mewn cyngherddau ymhell ac agos..mwy>>>
bowtie

Dyddiadau i ddod

Chwefror 12eg 2012:
Cyngerdd o ganeuon yr Hen Ganiadau yn y Rhyl gyda Chôr Cymysg Dyffryn Conwy
Chwefror 18fed 2012:
Cyngerdd arbennig gyda Chôr Godre'r Aran yn Abersoch
Mawrth 3ydd 2012:
Cyngerdd Gwyl Ddewi cymdeithas Gymraeg Sheffield gyda'r telynor Dafydd Huw
mwy>>