|
NewyddionGORFFENNAF 2010 : MORDAITH I WLAD YR IA I ALED!![]() y Llong Fordaith Minerva I cwmni'r Soprano, Diana Palmerston; Sian Meinir, Mezzo; ar gyfeilyddes Eirian Owen. Mae'n siwr y bydd hi'n daith i'w chofio. Bydd mwy o fanylion y daith ar gael yma'n fuan. Bon Voyage!! Am fwy o fanylion y fordaith, cliciwch ar y ddolen yma i fynd i wefan Swan Hellenic >> Gwefan Swan Hellenic IONAWR 2010 : ALED YN CANU I GYMRY LOS ANGELES AM Y TRYDYDD TROBaner UDA Bydd Aled yn dychwelyd am y trydydd tro i Los Angeles ddiwedd mis Chwefror i berfformio yn Nghyngerdd blynyddol Gwyl Ddewi Eglwys Cymraeg Los Angeles yn yr Unol Daleithau. Yn dilyn llwyddiant ei ymweliadau yno yn 2003 a 2004, mae Aled yn edrych ymlaen yn fawr iawn, ac yn ddiolchgar iawn i drigolion yr Eglwys Gymraeg am ei wahodd yn ôl eto! Bydd Aled a Karina yn hedfan allan rhai dyddiau yn gynt, a bydd cyfle mae'n siwr i weld dipyn o'r ddinas a thramwyo strydoedd disglaer Hollywood cyn dod adre i brysurdeb y tymor wyna adre ar y ffarm!!! ![]() Eglwys Presbyteraidd Cymraeg Los Angeles Dyma ddolen i wefan yr Eglwys yn Los Angeles >>> Gwefan yr Eglwys Bydd adroddiad o'r daith ar gael yma yn fuan ym mis Mawrth, gan gynnwys Newyddion am daith arall dros y dŵr i Aled ym mis Awst!! HYDREF 2009 : CAEL CROESO MAWR AR DAITH I GANADAMwynhaodd Aled a Karina daith hyfryd iawn i Ottawa a Thoronto yn ddiweddar wedi trefniadau trylwyr Alan Thomas, y cyfeilydd a'r organydd gwych a roddodd wahoddiad i'r ddau drosodd rhai misoedd yn ôl. Cafwyd croeso mawr ym mhobman a cafodd Aled gryn bleser o ganu i'r cyfeilliad ym mhob un o'r cyngherddau. Hoffai Aled a Karina ddiolch o galon i bawb a roddodd gymaint o groeso iddynt, ac am yr haelioni ddi-ddiwedd. Diolch yn fawr iawn. Dyma ddolen i chi gael cip ar y lluniau o'r daith. >>>> Lluniau Taith Gerddorol Aled i Ganada Mae'r ddau ddolen ganlynol yn adolygiadau o'r ddau gyngerdd Cymreig yn Ottawa a Toronto. Adolygiad y gyngerdd Eglwys Dewi Sant, Toronto Adolygiad o gyngerdd Eglwys Westminster, Ottawa Mae Aled wedi cyrraedd yn ôl adre i dymor prysur iawn o gyngherddau. Y penwythnos yma, bydd Aled yn recordio caneuon i'r rhaglen boblogaedd "Noson Lawen", a bydd cyfle i chi weld y rhaglen yma ar S4C yn fuan. Hefyd bydd cyfle i weld Aled yn perfformio dros y wlad, gan gynnwys dau berfforiad arall o'r cyngerdd "Ar Noson fel Hon" gan Gwmni Theatr Maldwyn yn Llandudno (18/10) a Chaerdydd (25/10). Cewch i'r dudalen dyddiadur am fwy o fanylion. MEDI 2009 : EDRYCH MLAEN AM GYNGHERDDAU HYFRYD YNG NGHANADABaner Canada Ar y 1af o Hydref, 2009 bydd Aled unwaith eto ar ei drafels, pan bydd yn hedfan allan i Ganada i berfformio mewn cyfres o gyngherddau gyda'r hynod Alan Thomas. Cwrddodd Aled ag Alan Thomas yn Chicago llynedd pan berfformiodd Aled yng Ngwyl Genedlaethol Gymreig Gogledd America, gydag Alan fel cyfeilydd iddo. Wedi'r wyl, mae Alan wedi bod yn brysur iawn yn trefnu taith i Aled i ganu yn Ottawa a Thoronto. Er mae Cymro yw Alan Thomas, mae wedi byw yn Ottawa, Canada ers nifer o flynyddoedd ac yn enw cyfarwydd mewn cyngherddau a gwyliau Cymreig dros Gogledd America. Mae yn gyfeilydd o'r radd flaenaf ac hefyd yn organydd heb ei ail. Bydd Aled ac Alan yn cynnal cyngherddau yn Eglwys Westminster, Ottawa ar y 4ydd o Hydref am 3yh, ac yng Nghapel Dewi Sant, Toronto ar y 6ed o Hydref am 7yh. Mae rhagor o berfformiadau eraill wedi cael ei drefnu hefyd, felly deg diwrnod ddigon prysur i Aled yng Ngogledd America!! Edrychwch ymlaen i ddarllen yr hanes yn fuan! HYDREF CYNHYRFUS YN DILYN HAF O HWYL A CHANUAled, Eirian, Sian a Diana Cerddorion Clasurol Minerva Aled a Karina yn Copenhagen Bydd Aled i'w weld yn canu mewn cyngherddau dros y wlad yr Hydref yma, ac mewn cyngerddhau yn Ottawa a Thoronto yng Nghanada ddechrau'r mis. Bydd Aled hefyd yn canu yn Nghaerdydd yng nghyngerdd dathlu 35 oed Côr Godre'r Garth; yn Llandeilo gyda'r Baswr, Huw Euron; mewn cyngerdd arbennig i agor Neuadd Gymdeithasol Hyddgen ym Machynlleth; ymweliadau eto a Whitwick Manor, Llangain a Chadeirlan Caer; a bydd perfformiadau arbennig gan Aled ar y rhaglen "Dechrau Canu Dechrau Canmol" yn yr Hydref. Am fwy o fanylion y cyngherddau, ymwelwch ar dudalen dyddiadur. Dyma ychydig o luniau o'r fordaith i fôr y Baltic : ![]() Kronburg Castle, Elsinore, Denmark o'r Harbwr ![]() Aled yn Gdansk, Poland ![]() Y grwp clasurol wedi'r cyngerdd olaf ![]() Y "Bridge", lle mae'r capten yn gweithio! ![]() Y Winter Palace, St Petersburg. ![]() Mwyhau ar y llong tra bod yr Haul yn mynd lawr Mae mwy o luniau o'r fordaith hon i'w gael ar dudalen Facebook Aled drwy glicio ar y ddolen ganlynol >>>> Albwm lluniau y fordaith i fôr y Baltic MEHEFIN 2009 : HAF PRYSUR O FLAEN ALED![]() y Llong Fordaith Minerva I Cyngerdd Cwmni Th. Maldwyn Tocynnau "Ar noson fel hon" yma Bydd mwy o newyddion yn fuan!! CHWEFROR 2009 : CYNGHERDD ARBENNIG ER BUDD TY'R EOSEglwys San Silyn, Wrecsam Mae tocynnau ar gael nawr i'r cyngerdd drwy gysylltu ar Swyddfa Ariannol yn Hospis Ty'r Eos, Ffordd Caer, Wrecsam. Ffoniwch (01978) 314292 am fwy o fanylion. CHWEFROR 2009 : CYNGHERDD ARBENNIG ER COF AM FFRINDBydd Aled yn dechrau'r tymor newydd o gyngherddau y mis yma gyda cyngerdd arbennig er budd Cronfa Ysgoloriaeth Goffa Aeron Gwyn Jones yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Roedd Aeron Aeron Gwyn Jones RHAGFYR 2008 : CYNGHERDDAU DI-RI CYN Y NADOLIG!Mae Aled yng nghanol tymor prysur iawn o gyngerddau nawr dros yr wythnosau sy'n arwain at y Nadolig. Cafodd gyngerdd gwych yng ngwesty'r Wynnstay, Croesoswallt yn ddiweddar yng nghwmni'r gantores Shân Cothi, Piantel a Glyn Owens mewn noson arbennig iawn er budd Marie Curie. Bu'r noson yn gymaint o lwyddiant mae'r holl artistiaid wedi cytuno i ddod yn ôl Aled gyda Shân Cothi a Glyn Owens Cyngerdd arall bydd yn aros yn y cof i Aled oedd perfformio yn Neuadd y Dre, Manceinion gyda'r Soprano, Diana Palmerston a'r cyfeilydd, Eirian Owen. Roedd yr achlysur yma wedi dod a dros 700 o "Land Girls" o'r ail ryfel byd at eu gilydd i ddathlu ei bodolaeth a'i gwaith di-flino yn y 40au. Mwynhaodd y merched gerddoriaeth o'r adeg honno gyda hen ffefrynnau gan Ivor Novello ac ati. Roedd hi'n brynhawn hyfryd ac roedd Aled, Diana ac Eirian wedi cyffroi o gael bod yn rhan o'r achlysur, ac i gael perfformio mewn neuadd gyngerdd mor hyfryd. Cliciwch am fwy o'r hanes yma Mae Aled hefyd newydd ddod adre o Gaer wedi dau berfformiad yn y Gaderlan yng Nghaer. Dyma oedd un o Y Gadeirlan, Caer Cyn y Nadolig bydd Aled yn canu mewn cyngherddau yn Stoke-on-Trent gyda Chôr y Fron; a Phennant,ger Aberaeron gyda Ifor Lloyd a'r clwb ffermwr Ifanc lleol, cyn ymlacio ac edrych ymlaen at y flwyddyn newydd!! Dyma ambell lun o'r cyngherddau diweddar : ![]() Artistiaid y cyngerdd yng Ngroesoswallt gyda'r trefnydd, Enid Thomas - Aled, Shân Cothi, Piantel a Glyn Owens ![]() Aled gyda Sian Meinir a Gareth Wyn Thomas yn Llangain ![]() Aled yn perfformio Granada!! ![]() Aled a Sian yn perfformio Brindisi yng Ngroesoswallt DYMUNA ALED NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDAI CHI GYD!! DIOLCH AM EICH CEFNOGAETH!!TACHWEDD 2008: GWYLIWCH GYFWELIAD ALED AR RAGLEN FFERMIO YMA NAWR!!![]() Aled ar raglen Ffermio Ym mis Mai, 2008 bu Daloni Metcalfe o'r rhaglen deledu Ffermio ar fferm Aled yn Llanbrynmair i'w gyfweld. Bu Aled yn sgwrsio am y cyferbyniad sydd ganddo o ganu ar lwyfannau'r byd a ffermio adre ym Mhentremawr, ac hefyd cneifio defaid dros fisoedd yr Haf. Bu Aled yn cneifio i dim Cymru yn 1999, a buont yn fuddugol yng nghystadleuaeth y pum gwlad!!! Daeth y cyfle yma i gynrychioli Cymru wedi iddo ennill yn Sioe Frenhinol Cymru yn 1998 allan o 60 o ymgeiswyr!!! Gallwch nawr weld y rhaglen arlein drwy glicio ar y linc isod. Bydd yr eitem ar Aled yn dechrau 16 munud mewn i'r rhaglen. >>> Cliciwch ar y ddolen yma i weld Aled ar Ffermio HYDREF 2008: EDRYCH YN ÔL AR DEITHIAU  CYNGHERDDAU'R HAFMae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn i Aled gyda chyngherddau yn bell ac agos i adre. Dechrau mis Awst perfformiodd Aled mewn cyngerdd awyr-agored ger Llanfair-ym-Muallt – “Music on the Meadow” yng nghwmi artistiad lleol a Chôr Talgarth. Noson wych, ac er i'r tywydd ymharu ychydig ar y noson, roedd pawb yn mynd adre wedi mwynhau yn fawr. Yna ganol mis Awst dychwelodd Aled i Arnesby, Leicester yn dilyn llwyddiant 2007 i gyngerdd hwyliog dros ben gyda Diana Palmerston ac Eirian Owen. Yr wythnos ganlynol dychwelodd Aled eto i'r Tabernacl, Machynlleth mewn cyngerdd arbennig iawn fel rhan o ŵyl y Tabernacl yng nghwmni Sian Meinir, Diana Palmerston, Eirian Owen a Tom Gwanas. Noson i'w chofio!! Roedd hi wedyn yn bryd edrych am y passport unwaith yn rhagor oherwydd ar y 26ain o Awst hedfanodd Aled a Karina i Chicago, UDA i ŵyl Gymraeg Gogledd America. Roedd dros 700 o Gwyl Gymreig Gogledd America Chicago o ben y Sears Tower gyda llyn Michigan tu ôl Roedd Aled ar ei drafels eto y penwythnos canlynol pan deithiodd i'r Alban gyda Pharti Meibion Dyfi, Machynlleth. Cafwyd llawer iawn o hwyl tra'n aros yn Dumfries a mwynhâwyd cyngerdd gwych yn Newton Stewart ar y nos Sadwrn. Diolch o galon i Valmai, sy'n wreiddiol o Lanbrynmair am drefnu'r daith a'r cyngerdd i ni, ac am y croeso hyfryd yn yr Alban. Allan o Gymru bu Aled eto y ddwy benwythnos ganlynol hefyd pan groesodd y ffin i Loegr Wightwick Manor Shân Cothi Mae amser prysur iawn o flaen Aled eto cyn y Nadolig gyda chyngherddau dros y wlad i gyd. Bydd y cyngerdd nesaf yn y Wynnstay, Croesoswallt yng nghwmni'r hynod Shân Cothi, Piantel a Glyn Owens. Mae'n argoeli i fod yn noson wych!!! Mae mwy o fanylion am gyngherddau nesaf Aled ar gael yma drwy'r dudalen Dyddiadur. Dyma ychydig o luniau i chi o'r daith i'r Unol Daleithau : ![]() Ein trafnidiaeth i'r ŵyl - Teithio mewn steil!! ![]() Yr enwog Carnegie Hall yn Efrog Newydd ![]() Central Park yn Efrog Newydd ![]() Ymlacio wedi'r cyngerdd yn Chicago gyda bois CF1 GWAHODDIAD I GANU YNG NGŴYL FAWR GYMREIG GOGLEDD AMERICAMae Aled wedi derbyn gwahoddiad arbennig iawn yn ddiweddar i ganu yng nghymanfa fawr Gogledd America ddiwedd mis Awst, 2008. Mae'r Gymanfa Ganu enwog yma yn cael ei chynnal yn flynyddol mewn dinasoedd gwahanol ar draws yr Unol Daleithau a Chanada ers blynyddoedd maith, a bydd y 77fed ŵyl yn cael ei chynnal yn Chicago, Illinois ar Awst 28-31ain eleni. ![]() Gwyl Gymreig Gogledd America, Chicago 2008 Yn ymuno gydag Aled yn y dathliadau a'r cyngherddau eleni bydd y gantores Fflur Dafydd o Gaerfyrddin, a chôr sydd wedi gwneud enw mawr i'w hunain dros y blynyddoedd diwethaf, sef Côr CF1 o Gaerdydd. Mae'n argoeli i fod yn wythnos hwyliog iawn gyda gymaint o Gymru yn trafeilio draw i'r Gymanfa eleni. Bydd Fflur Dafydd yn agor yr ŵyl mewn cyngerdd ar nos Iau, 28ain o Awst, gydag Aled yn perfformio mewn cyngerdd ar y noson canlynol. Yna ar y dydd Sadwrn bydd yr Eisteddfod yn cymryd lle ynghyd a llawer o gyflwyiadau a darlithoedd diddorol drwy'r dydd. Bydd cyngerdd mawreddog yr ŵyl ar y nos Sadwrn gyda Chôr Aelwyd CF1, cyn bydd y penwythnos yn dod i ben ar ddydd Sul gyda'r Gymanfa Ganu fawr yn y pnawn a'r nos lle bydd Aled eto yn perfformio ambell i gân Gymraeg. Bydd hefyd cyfle mae'n siwr i Aled a Karina i weld dipyn ar y ddinas hynod yma cyn hedfan i Efrog Newydd am ambell ddiwrnod ymlaciol ar y ffordd adre! Edrychwch ymlaen i weld yr hanes i gyd yn fuan! Mae mwy o fanylion am yr ŵyl i'w gael drwy glicio ar yr hafan canlynol.>>>>> Gwefan Gŵyl Gymreig Gogledd America MAI 2008 : TYMOR O GYNGHERDDAU YN DECHRAU I ALED ETOYn dilyn seibiant o'r canu dros dymor yr wyna ar y ffarm, bydd Aled yn dechrau nôl gyda dau gyngerdd y penwythnos yma yng ngogledd Cymru. Ar nos Wener y 16fed o Fai bydd yn Galeri, Caernarfon Ddiwedd mis Mai bydd Aled ac Iwan Wyn Parry yn dychwelyd i'r Drenewydd i gyngerdd blynyddol Côr Meibion y Drenewydd. Yn dilyn llwyddiant y cyngerdd yno yn 2007 mae'n bleserus dros ben i'r ddau gael gwahoddiad i ganu yn yr un cyngerdd y flwyddyn ganlynol. Mi fydd rhaid cofio nawr be wnaethom ni ganu y tro diwethaf!!! Bydd y cyngerdd yma yng nghapel y Bedyddwyr, y Drenewydd, ar nos Sadwrn y 31ain o Fai. Dewch yn llu! Mae nifer o gyngherddau mawr ar y gorwel i Aled dros y misoedd nesa hefyd gan gynnwys DIOLCH AM Y CROESO ARBENNIG YN NE AFFRICADychwelodd Aled a Karina o daith hyfryd i Dde Affrica ddechrau mis Mawrth yn dilyn cyngerdd gwych yn neuadd y brifysgol yn Johannesburg gyda Chôr Meibion Cymru De Affrica, a gafodd eu harwain y noson honno gan yr amryddawn, Alwyn Humphreys. Hoffem ni ddiolch o galon i'r côr, y cefnogwyr a Chymdeithas Gymraeg Witwaterstrand am y croeso arbennig a'r caredigrwydd a dderbyniom tra buom yn eich cwmni. Diolch arbennig iawn i'r Cymro Tony Davies a'i wraig, Wendy am edrych ar ein hôl mor dda ac am ddangos gymaint o'r wlad i ni mewn cyfnod byr o amser. Roedd hi'n bleser yn wir i ganu yn y cyngerdd Gŵyl Ddewi yma, a hynny mor bell o Gymru fach, ac hefyd i glywed y côr yn canu bron hanner eu caneuon yn y Gymraeg a hynny efo dim ond un aelod yn siarad yr iaith! Rydym yn eich llongyfarch yn fawr ac yn dymuno'n dda i chi i'r dyfodol. Gobeithio cawn gyfle i wneud yr un peth eto rhywbryd!! Dyma ychydig o luniau o'r daith : ![]() Côr Meibion Cymru De Affrica yn canu yn y cyngerdd Gŵyl Ddewi yn Johannesburg ![]() Aled gyda'r arweinydd, Alwyn Humphreys, yn dilyn y cyngerdd ![]() Aled a Karina yn ymlacio ger traeth "Llandudno" ger Cape Town! ![]() Golygfa o “Table Mountain” o ddinas Cape Town Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld mwy o luniau Aled ar ei daith i Dde Affrica Taith De Affrica, Chwefror, 2008 CHWEFROR 2008 : ALED YN TEITHIO  PHERFFORMIO I GYMRY DE AFFRICABore Iau yr 21ain o Chwefror bydd Aled unwaith eto yn trafeilio i hemisffer y De i ganu mewn cyngherddau Gwyl Ddewi yn Johannesburg, De Affrica. Yn ogystal a'r cyngerdd mawreddog, bydd Aled hefyd yn canu yng nghapel Bedfordview sydd ar gyrion y ddinas ar y 24ain o Chwefror, lle mae'n debyg bod dros 1,000 o bobl yn mynychu'r cwrdd bob bore Sul! Bydd Aled hefyd yn cael cyfle i drafeilio tipyn o gwmpas y wlad rhwng y cyngherddau gan gynnwys ymweliad a Soweto, Pretoria a Chape Town cyn dechrau am adre ar y 3ydd o Fawrth yn barod i'r tymor wyn bach ar y fferm adre. Cofiwch hefyd am y cyngerdd Gwyl Ddewi yn Llandudno sydd ar yr 8fed o Fawrth. Mae tocynnau'n mynd yn gyflym medden nhw!! Mwy o hanes y daith ym mis Mawrth. IONAWR 2008 : GWRANDEWCH AR ALED YN CANU AR MYSPACEAled nawr ar myspace-music Yn ddiweddar mae Aled wedi llawrlwytho rhai o'i ganeuon ar y wefan boblogaedd MySpace-Music. Os am wrando ar ganeuon Aled fel "Che Gelida Manida", "Anthem", "O na byddai'n haf o hyd" ac "Eryr Pengwern" yn llawn, ewch i safle Aled drwy ddilyn y ddolen ganlynol>>>> Traciau Aled ar MySpace-Music CYNGERDD ARBENNIG I ALED GYDAG UNAWDWYR BYDENWOGAr nos Sadwrn, 8fed o Fawrth 2008, bydd Aled yn perfformio mewn cyngerdd arbennig iawn yn Theatr Venue Cymru, Llandudno. Mae Côr Meibion Maelgwn yn cynnal cyngerdd Gwyl Ddewi ![]() Jonathan Lemalu, Aled a Gwyn Hughes Jones Felly, mae Aled yn ei ystyried yn fraint mawr i gael rhannu'r llwyfan gydag artistiaid o'r safon yma, ac yn gwerthfawrogi caredigrwydd Côr Meibion Maelgwn yn ei wahodd i'w cyngerdd arbennig. Mae tocynnau nawr ar werth i'r cyngerdd drwy gysylltu â Venue Cymru ar 01492 872000 neu arlein drwy glicio ar y linc canlynol >>> Prynwch Tocynnau Arlein TAITH WYCH A CHWMNI ARBENNIG POBL PATAGONIADerbyniodd Aled groeso arbennig iawn gan drigolion Cymraeg Patagonia ar ei daith hwyliog yn ddiweddar fel unawdydd gwadd gyda Chôr Godre'r Aran. Mi ddaw fwy o hanes y daith i chi yn fuan. Dyma cwpl o luniau i chi o'r daith i aros: ![]() Côr Godre'r Aran yn ymlacio ym Mhatagonia ![]() Aled yn perfformio mewn cyngerdd yn Esquel, Patagonia EDRYCH 'MLAEN AM DAITH ARBENNIG I BATAGONIAAr fore Iau, 15fed o Dachwedd bydd Aled a'i wraig Karina yn dechrau ar ei taith arbennig i'r Ariannin a Brasil pan bydd criw o 80 yn trafeilio lawr i Lundain cyn hedfan allan i Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Mae Côr Godre'r Aran wedi trefnu taith wych o dair wythnos yn Ne America a byddant yn perfformio mewn chwe cyngerdd gyda Aled fel unawdydd gwadd iddynt. Ar ôl ymlacio ychydig yn Buenos Aires bydd y Côr yn canu mewn cyngerdd yno cyn hedfan lawr i Batagonia lle byddant yn cynnal cyngherddau yn Bariloche, Esquel, Trevelin, Y Gaiman a Threlew. Bydd y cyfnod yma yn siwr o fod yn gyffroes iawn ac mae yna gryn edrych ymlaen i'r perfformiadau gan drigolion Cymraeg y wlad. I ddiwedd y daith mewn steil bydd y daith yn dod i ben gyda tair noson yn dinas anhygoel Rio de Janeiro cyn ei throi am adre. Edrychwch ymlaen i glywed hanes y daith yn fuan!! CYNGHERDDAU YN NIGWYDDIADAU MWYA CYMRU DROS YR HAFMi fydd Aled yn perfformio mewn dau gyngerdd arbennig dros y mis nesa - Un yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ac un arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug. Y Sioe Frenhinol yn ei anterth. Maes yr Eisteddfod Genedlaethol TYMOR PRYSUR O GYNGHERDDAU GYDA CHORAU ENWOCAF Y WLADMae'r mis hwn yn argoeli i fod yn amser hynod o brysur i Aled. Yn dilyn tymor yr wyna mae'r cyngherddau wedi dechrau unwaith eto, ac ar Ebrill yr 28ain cafwyd noson arbennig iawn yn y Tabernacl ym Machynlleth pan rannodd Aled lwyfan gyda'r Soprano Diana Palmerston, y Mezzo-soprano Sian Meinir, y Bariton Tom Evans, a'r gyfeilyddes hynaws Eirian Owen mewn cyngerdd hwyliog tu hwnt. Bu llawer o ganmol i'r noson yma gyda phobl yn dweud pethau fel "Y cyngerdd gore i mi fod ynddo erioed...!!" Bwriedir mynd ar noson yma ar daith dros y flwyddyn nesa ac os hoffech fwynhau'r cyngerdd yma yn eich ardal chi, cysylltwch â'r trefnydd Dennis Jones ar 01654 761500 am fwy o fanylion. Y penwythnos ganlynol mwynhaodd Aled ddau gyngerdd gwbl wahanol gyda dau o gorau meibion enwocaf Cymru. Ar nos Wener y 4ydd o Fai bu Aled yng nghwmni Côr Godre'r Aran,Sian Meinir a Dai Jones, Llanilar mewn noson arbennig ym mhafiliwn Rhyl. Y noson ganlynol roedd Aled yn agosach at adre pan rannodd lwyfan gyda Chôr meibion Froncysyllte. Mae'r côr yma wedi mwynhau llwyddiant anhygoel yn ddiweddar yn dilyn ei cryno-ddisg newydd Voices of the Valley, a braf oedd gweld yr Eglwys yn Llanfair Caereinion yn orlawn i fwynhau'r noson. Roedd dau gwpl wedi dod yn bell iawn i wrando ar y côr - un cwpl o Lincoln, a'r cwpl arall o New South Wales, Awstralia! Bydd dau gyngerdd o flaen Aled eto'r penwythnos nesaf - Burry Port ar Fai y 12fed gyda Chôr Godre'r Aran; ac yna yn y Drenewydd gyda Iwan Wyn Parri a Chôr meibion y Drenewydd ar Fai y 13eg. EBRILL 2007: TAITH GERDDOROL GYDA COR GODRE'R ARAN![]() Côr Godre'r Aran ar ei ffordd i'r Wladfa! CANEUON CD ALED NAWR AR GAEL DRWY I-TUNES!Prynwch ganeuon Aled nawr ar i-Tunes Yn dilyn llwyddiant anhygoel y gryno-ddisg "Nodau Aur fy Nghân", mae'r cwmni recordioSAIN wedi rhyddhau caneuon CD Aled ar y wefan "iTunes". Mae i-tunes yn cynnwys traciau caneuon o bob math ar ei wefan ac ar ôl clywed blas 30 eiliad o bob cân mae modd i chi brynu traciau am 79c yr un. Mae hefyd modd i chi gymharu yr un caneuon gyda artistiad eraill drwy roi enw'r gân mewn yn unig. Cliciwch ar y linc yma i fynd i'r wefan>>>> i-Tunes - Nodau Aur fy Nghân MAWRTH 2007: MORDAITH I'W CHOFIO!Bu'r fordaith ddiweddaraf i Aled a Karina fynd arno yn daith arbennig iawn - ac un i'w chofio am byth. Aled ar y llong rhwng Chile a'r Ariannin Aled a Karina ar Ynysoedd y Falklands Roedd y tywydd yn wyntog iawn o amgylch Cape Horn ond yn brofiad anhygoel dim ond i gael gweld y lle. Ymweliad wedyn ar dref isaf yn y byd, sef Ushuaia cyn teithio i Ynysoedd y Falklands. Dyma i chi le hyfryd iawn - tebyg iawn i ucheldir Gogledd Cymru ond dim ond ryw dair mil a hanner o fobl yn byw yma. Ymwelwyd a fferm ger Port Stanley a cafodd Aled gyfle iddangos ei ddawn o gneifio dafad i'r teithwyr yn hytrach na chanu! Bu hyn yn sioc i ambell un ohonynt gan nad oedden yn gwybod pryd hynny mae ffarmwr ydoedd! Karina gyda'r enwog Billy Hughes a Luned Gonzalez yn Y Gaiman, Patagonia Dawns y Tango yn Buenos Aires Dafydd Iwan gwlad Uruguay!! Y ddinas nesaf i ni weld oedd Buenos Aires, sef prifddinas yr Ariannin. Lle prysur ac Ewropeaidd iawn. Gwelsom fedd yr enwog Eva Peron a llawer o berfformiadau'r Tango ar y strydoedd. Y bore canlynol roeddem ym mhrifddinas Uruguay, sef Montevideo. Lle dipyn tawelach na Buenos Aires ond gwelsom yma fersiwn Uruguay o'r canwr Dafydd Iwan!! >>>>>> Aled a Karina ar fynydd enwog Corcovado Wrth i dymor y carnifal ddod i ben yn y ddinas, daeth criw o Rio ymlaen i'r llong ar y noson olaf i roi sioe i ni - arbennig iawn! Clywsom bod y ganolfan feddyginiaeth ar agor drwy'r nos o ganlyniad!! Wrth edrych yn ôl mae'n rhaid dweud roedd hon yn daith fythgofiadwy gyda gymaint o amrywiaeth yn y tirwedd a'r bobl wrth symud o wlad i wlad. Gobeithio wir daw cyfle i wneud rhywbeth tebyg eto yn y dyfodol! ![]() Y grwp cerddorol ar y llong yn ymlacio! ![]() Golygfeydd godidog Rio de Janeiro o fynydd Corcovado CHWEFROR 2007: ROWND YR HORN!!Bydd Aled a Karina allan o'r wlad rhwng Chwefror 7fed a'r 25ain ![]() Y llong fordaith Minerva II Cliciwch yma am fanylion y daith. IONAWR 2007: GWYLIWCH ALLAN AM ALED AR S4CWedi 3 ar Ionawr 26ain Bydd Aled yn perfformio ar raglen Wedi 3 ar sianel S4C Digidol bnawn Gwener y 26ain o Ionawr am 3 o'r gloch y prynhawn. Bydd yn canu cân ac hefyd yn sgwrsio gyda'r cyflwynwyr Elinor Jones a John Hardy. Cofiwch wylio! DAU GYNGERDD ARBENNIG O GANEUON ALLAN O'R SIOEAU CERDD CYMREIGAled gyda Sara ac Edryd RHAGFYR 2006: DWY NOSON LWYDDIANNUS I LANSIO CD NEWYDD ALEDCafwyd dwy noson wefreiddiol ddiwedd mis Tachwedd pan lansiodd Aled ei CD newydd, "Nodau Aur fy Nghân". ![]() Aled gyda'r CD ![]() Lansio'r CD newydd gyda Dafydd & Gwawr Edwards Yna ar nos Fercher, Tachwedd y 29ain, cafodd Aled sioc anferthol pan welodd fod y Ganolfan Gymdeithasol yn Llanbryn-mair yn orlawn oherwydd trefnwyd noson deyrnged iddo yn dilyn ei lwyddiant yn ennill y Rhuban Glas eleni. Arweiniwyd y noson gan y digrifwr, Dilwyn Morgan, a chafwyd eitemau gwych gan ddisgyblion ysgol gynradd Llanbryn-mair, ac ambell gân gan Aled. Rhannwyd y noson gyda areithiau hwyliog gan Penri Roberts, Hedd Bleddyn, Meirion Jones a Magwen Pughe, wrth iddynt ddatgelu ambell stori am Aled. Gwnaed y diolchiadau gan Bethan Bleddyn, Prifathrawes yr ysgol, a chyflwynwyd englyn gwirioneddol wych i Aled a oedd wedi cael ei gyfansoddi gan y bardd enwog o Ddyffryn Dyfi, Dafydd Wyn Jones: Aled WynAled Wyn dy solo di - beri ias, Ddaeth i'r brig eleni. Yn y fro hon mawr dy fri. - Yr wyt ein Pavarotti. Dafydd Wyn Jones. Cafwyd hefyd englynion arbennig gan Hedd Bleddyn ar y noson:- Aled WynO weled awr ein Aled Wyn - yn ein gwyl, A'i gân ef yn esgyn I'r Ruban Glas, daeth ias hin O haf dros fro'i gynefin. Heno dywedwn ninnau - fod dy gamp, Fod dy gân a'th dd
| |
|
|