|
NewyddionHYDREF 2011 : TAITH YN LLAWN HWYL GYDA HOGIA'R DDWYLANYm mis Medi, 2010 cefais alwad ffôn gan Ilid Anne Jones, cyfarwyddwr cerdd Hogia'r Ddwylan yn holi i mi os oedd gennai ddiddordeb i fynd i Wyl Gymraeg Gogledd America gyda nhw fel unawdydd Gwadd. Wel derbyniais yn syth mae'n rhaid deud, ac wedi i Ilid gadarnhau gyda'r côr, roeddwn yn edrych ymlaen i gael ymuno a'r Hogia yn Cleveland, Ohio a Chicago, Illinois. Wel bron blwyddyn yn ddiweddarach roeddwn ar fy ffordd fyny i faes awyr Manceinion i gwrdd a'r côr cyn hedfan i Chicago! Bore Iau y 1af o Fedi oedd hi pan roeddwn yn ciwio i fynd ymlaen ar yr awyren. Roeddwn eisoes wedi cael cyfle i sgwrsio a thipyn o fois y côr erbyn hyn, ac wedi noson hwyliog o gymdeithasu gyda'r criw yng nghlwb rygbi Bangor ym mis Gorffennaf, roeddwn wedi dechre dod i adnabod dipyn ohonynt yn well! Roeddwn yn gallu gweld yn syth bod llawer iawn o gymeriadau i gael yn y côr yma, fel sydd yn rhan fwyaf o gorau dwi wedi cael y cyfle i rannu llwyfan a nhw. ![]() Hogia'r Ddwylan yn canu yn yr Wyl Gymreig Roeddwn wedi gadael Karina ac Aria Wyn adre y tro yma, ac er byddai wedi bod yn wych eu cael nhw gyda fi, roeddwn yn meddwl bod Aria ychydig yn rhy ifanc i drafeilio y pellter yma, a bod dramor am amser hir. Ond roedd yna ddigon i gadw cwmpeini a mi beth bynnag, gyda dros hanner cant ohonynt yn mynd fel criw i'r awyren American Airlines. Wedi trio cysgu ychydig a cael hanesion y côr gan rai aelodau, mi hedfanodd yr wyth awr yn yr awyr, er dim ond y dechrau roedd hyn i dri ohonom. Ar ôl cyrraedd maes awyr O'Hare yn Chicago roeddwn i, Ilid, a Dewi ei gŵr yn ffarwelio a gweddill y criw oherwydd roedden ni'n tri yn aros yn y maes awyr am bump awr arall cyn dal awyren i Cleveland y noson honno, tra bod y criw mawr yn aros y nos ger y maes awyr ac yn hedfan y diwrnod canlynol. Buan aeth yr amser wrth sgwrsio a Dewi ac Ilid am bob math o bethau, a chyn hir roedd hi'n amser i fynd ymlaen ar yr awyren eto. Roedd hon yn awyren dipyn llai, gyda llai na chant o seddi arni!! Roedd y tri ohonom yn pryderu na fyddai'r daith fach yma yr un mor llyfn a'r daith y bore hwnnw. Dechreuodd pethau'n ddigon sigledig mae'n rhaid deud, ond y swn oedd waethaf. Roedd hi fel ein bod mewn "bumble bee" mae'n rhaid deud!! Cyrhaeddom y gwesty tua 10 y noson honno, tua 21 awr wedi i ni ddechrau i'r maes awyr y bore hwnnw! Gwely ddaeth yn sydyn, a braf oedd cael cysgu! Deffrais fore Gwener yn ffres, ac wrth agor y llenni gwelais olygfa hyfryd o lyn Erie drwy'r strydoedd mawr o'm blaen gyda stadiwm y Cleveland Browns, y tim pel-droed Americanaidd, i'w weld yn glir o'm blaen. Brecwast mawr wedyn, gyda crempog i bwdin! Dyna ydi moethusrwydd i chi. Wedyn ces gyfle oherwydd bod diwrnod i ffwrdd gyda fi i grwydro ychydig yn y ddinas. Ces gyfle i gerdded lawr at y llyn, ac ymweld ag amgueddfa roc-a-rol oedd wedi ei sefydlu yn y ddinas. Mae llawer yn deud mae Alan Freed, DJ radio yn y ddinas, oedd y cyntaf i ddeud y gair Roc-a-rol yn gyhoeddus, ac yn Cleveland cafwyd y cyngerdd Rocarol cyntaf erioed. Tua tair awr yn ddiweddarach roeddwn wedi gweld dipyn o'r ardal o gwmpas y gwesty, a pan es yn ôl i'r Crown Plaza roedd criw Hogia'r Ddwylan i gyd wedi cyrraedd. O fewn pum munud roeddwn yn anelu am y ddinas eto, wedi i bump o fois y côr fy ngwahodd i fynd gyda nhw am beint. Cawsom amser difyr yn sgwrsio, ond roedd hi'n chwilboeth y pnawn hwnnw, ac roeddem i gyd yn edrych am ychydig o gysgod! Cyrhaeddom yn ôl i'r gwesty am chwarter i saith, newid yn sydyn i'n siwtiau, ac roeddem yn eistedd i lawr i bryd bwyd tri chwrs yn y gwesty am saith o'r gloch!! Wedi cael ein gwynt atom cawsom bryd blasus, a chyngerdd hyfryd i ddilyn gan Soprano o Texas o'r enw Megan Elizabeth Morris. Perfformiodd Megan tua deg o ganeuon, a chware teg, er nad oedd yn siarad dim o iaith y nefoedd, cawsom tua saith cân Gymraeg ganddi. Wedi'r cinio, tua 9:30yh es am fy ngwely yn dawel bach gan fod diwrnod mawr o'm blaen y diwrnod canlynol. Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur iawn. Roeddwn i ac Ilid wedi cael ein gwahodd i feirniadu yng nghystadlaethau Eisteddfod yr Wyl. Er bod y niferoedd yn eitha bach, roedd yr hwyl a'r ysbryd yn gryf iawn, a cafwyd ambell i berfformiad da iawn gan y cystadleuwyr. Uchafbwynt y cystadlaethau i mi oedd beirniadu, ar y cyd â Edward Morus Jones cystadleuaeth Canu Emyn i fois Hogia'r Ddwylan. Daeth wyth ohonynt ymlaen i gystadlu, a dwi'n gwybod nawr pam roedd y criw ifanc i gyd yn awyddus i brynu peint i mi y prynhawn blaenorol!!! Wel am gystadleuaeth wych mae'n rhaid dweud, ac roedd hôl paratoi i'w weld ym mherfformiadau pob un ohonynt. Rhannais y drydedd wobr rhwng Lyn ac Iwan, yr ail wobr i Rob, ac yn ddi-os roedd Edward a minnau yn gytun mae perfformiad Gareth Owen o Sicrwydd Bendigaid oedd y perfformiad gorau. Wedi'r eisteddfod, ces hanner awr o ymarfer fy nghaneuon gyda Ilid cyn y cyngerdd, ac yna yn syth i ymarfer yn y neuadd fawr gyda'r Hogie cyn y cyngerdd am 7:30yh. Dechreuodd y noson yn brydlon, ac roedd yn chwilboeth tu allan y neuadd yn y gwesty. Yn anffodus oherwydd lot fawr o siarad, ni ddechreuodd y côr ganu tan wyth o'r gloch, ond mi ddechreuon nhw'n wych, a chael ymateb ysbrydoledig gan y dyrfa fawr oedd yn gwrando.Roeddwn wedi cael cyfle i ganu yn yr ŵyl hon tair blynedd yn gynt, felly roedd gen i syniad beth oedd o'm blaen, ond dyma'r tro cyntaf erioed i'r côr ganu y tu allan i Ewrop! Mi ddechreuais i gyda cân arbennig RS Hughes, Arafa Don, ac mi aeth hi lawr yn wych gyda'r gynulleidfa. Yna canais Musica Proibita, a nes mlaen yn yr hanner Shine through my dreams, Pedair Oed a Mattinatta cyn canu You raise me up gyda'r cor i ddiwedd yr hanner. Yn yr ail hanner canais Bugail Aberdyfi, O Sole Mio ac I'll Walk with God, cyn ymuno gyda'r cor i ganu Benedictus, O Gymru, Ely Jenkins' prayer ac American Trilogy. Daeth y cyngerdd i ben gyda phob un o'r gynulleidfa ar eu traed, a braf iawn oedd gweld eu bod wedi'u plesio'n fawr. Gwerthu CD's wedyn, a gweld eu bod bron â mynd i gyd, a hynny cyn cyrraedd cyngerdd Chicago!! Cafwyd peint bach i ddathlu'r llwyddiant, ond i'r gwely es i eto yn fachgen da wedi diwrnod hir a blinedig, gan edrych ymlaen i weddill y penwythnos. ![]() Y criw mawr yn y parti yn Chicago Dydd Sul oedd diwrnod y gymanfa fawr yr yr Ŵyl, ac am ddau y prynhawn es i eistedd gyda Hogia'r Ddwylan gan ddechrau ar y marathon o emynau! Roedd Ilid Anne Jones wedi cael ei gwahodd i arwain y cymanfa, a chware teg mi wnaeth job wych ohoni. Roedd Alan Thomas hefyd yn arbennig ar yr organ, a hyfryd iawn oedd clywed tua pum cant o Americanwyr Cymreig yn canu'r emynau yma gyda gymaint o ysbryd ac arddeliad. Roeddem yn teimlo bod gan y Cymry adre rhywbeth i ddysgu gan rhain. Canwyd tua 22 o emynau ac roedd safon y canu, a'r geirio Cymraeg yn safonol dros ben. Cafwyd dwy eitem yn y canol gan y côr a minnau, ac roeddem i gyd yn dechre blino erbyn y diwedd. Cawsom ddwyawr o seibiant, ac aeth criw o ryw bymddeg ohonom am stecen dydd sul mewn ty bwyta yn y dref, cyn mynd yn ôl i ganu yn ail hanner y gymanfa! Ie, gyda'n boliau yn llawn a phum munud i sbario roeddem yn ôl ar lwyfan yr ŵyl am ddwyawr a hanner o ganu emynau eto! Cafwyd canu arbennig iawn yn sesiwn y nos, ond mae'n rhaid deud bod canu 48 o emynau mewn diwrnod braidd yn ormod, hyd yn oed i gapelwyr selog!! Daeth y gymanfa, ar ŵyl i ben, a roedd pawb wrth eu boddau a'r sut roedd popeth wedi mynd. Wedi newid yn sydyn, es lawr i gyntedd y gwesty i gael llymaid bach, a roeddwn methu coelio bod tua 60 o fobl rownd y piano yno yn canu emynau! Mae'n rhaid deud bod y bobl yma yn angerddol i bopeth Cymreig ac yn gwneud yn fawr o'r diwylliant maen't wedi' greu yn yr ŵyl hon. Mewn rhyw awr gwahoddwyd y côr a minnau i ganu, ac roedd yn hyfryd i gael canu caneuon cymraeg ysgafnach, a fel 'na fu hi am oriau maith. Y Cymru yn canu a chymdeithasu! Bore llun, ac roedd yn amser symyd ymlaen i Chicago. Roedd rhai ohonom yn dioddef ychydig yn fwy nac eraill, heb enwi neb, ond roedd neb yn disgwyl be oedd o'n blaenau yn y maes awyr. Wedi i minnau a ryw ddeg o'r criw checio mewn a mynd drwy y broses diogelwch ces alwad ffôn gan Iestyn, cadeirydd y côr yn deud bod y ffleit wedi ei ohirio a bydde rhaid i mi ffeindio pawb roedd wedi mynd drwodd, a dod yn ôl atom nhw gan byddem yn trafeilio nawr ar fys am dros saith awr! Roedd hyn yn swnio fel hunllef i ni gyd, ond erbyn i mi gael gafael ar bawb roedd pethau wedi newid eto a byddem yn mynd ar awyren wedi'r cwbl. Roeddem i gyd yn falch o gyrraedd Chicago, ac roedd ein gwesty am dair noson olaf y daith reit ynghanol y ddinas fawr. Wedi setlo mewn, penderfynnu mynd i ben tŵr John Hancock i gael golwg o'r ddinas o 344 medr, a chan llawr uwchben y ddaear. Roedd hi'n olygfa anhygoel ac roedd gweld maint anferthol Chicago yn rhyfeddol. Penderfynnais fynd am fy ngwely wedyn oherwydd blinder y noson gynt, ac oherwydd bod cyngerdd mawr gyda ni eto nos fawrth yn Chicago. Ces gyfle i weld dipyn o ddinas Chicago dydd mawrth gan rhyfeddu ar weld gymaint o adeiladau uchel iawn, a methu coelio pa mor oer roedd hi ar adegau yn y strydoedd. Y rheswm am hyn oedd bod cymaint o'r strydoedd rhwng yr adeiladau uchel ac y nghysgod yr haul. Dyna pam eu bod yn galw Chicago yn Windy city. Roedd gweld cerflyn arferthol Marilyn Monroe yn wych ar Michigan Avenue, er bod ambell i un o Hogia'r Ddwylan yn poeni mwy beth oedd ganddi dan ei sgert! Ces gyfle i basio'r Sears Tower, stadiwm y Chicago Bears ar pier hir hyfryd sydd yno yn ymestyn mewn i lake Michigan. Cawsom gyngerdd arbennig eto yn Chicago ac roedd eglwys St Jerome yn un o'r llefydd hyfrytaf i mi ganu ynddo, a dyma oedd yr eil hiraf i mi weld erioed. Roedd gynulleidfa Chicago yn gynnes iawn, a dipyn wedi dod i wrando ar y côr eto wedi Cleveland! Wedi'r cyngerdd roedd hi'n hen bryd dathlu llwyddiant y daith, a dyna wnaethom ni! I ddiwedd taith arbennig aeth y criw i gyd am swper ar y pier nos fercher, ac roedd hi'n gyfle i bawb dynnu lluniau a sgwrsio yng nghwmni gwych. Aeth rhai ohonom ymlaen i ddathlu ychydig mwy, a gwrando ar rywun yn canu mewn piano bar, a rhyfeddu ar faint o arian roedd yn cael ei daflu i'r potyn enfawr roedd ar y piano! Rhywbeth i ni feddwl amdano efallai!! Hoffwn ddiolch o galon i Hogia'r Ddwylan am y cyfle i gael dod gyda hwy ar y daith yma, ac am y cyfeillgarwch a dderbyniais gan bob un o'r criw. Roedd hi'n daith fythgofiadwy ac rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes yn bendant. Diolch hefyd i Ilid am holi i mi yn y lle cyntaf, ac am gyfeilio mor fedrus i mi yn y cyngherddau. Hefyd am fod yn gyd-feirniad gwych yn yr eisteddfod, er ei bod wedi troi cefn arnai cwpl o weithiau!! Diolch i chi gyd, ac edrychaf ymlaen i gael canu gyda chi unwaith eto yn fuan. Aled AWST 2011 : GWAHODDIAD I GANU YNG NGWYL FAWR AMERICA!Ddydd Iau, Medi'r 1af bydd Aled yn trafeilio i Cleveland, Ohio yn yr Unol Daleithau i ![]() Gwyl Gymreig Gogledd America, Cleveland, Ohio 2011 Bydd Hogia'r Ddwylan ac Aled yn canu yn y cyngerdd mawr ar nos Sadwrn yr wyl, ac hefyd bydd Aled a'r côr yn cymeryd rhan yn y gymanfa ganu arbennig ar bnawn a nos Sul dan arweinyddiaeth Ilid Anne Jones. Dyma fydd y chweched tro i Aled fynd i ganu yng Ngogledd America, a'r ail dro iddo ganu yn yr Wyl Genedlaethol wedi iddo berfformio yn Chicago yn 2008. Dwi'n siwr bydd y daith yn un ddigon hwyliog gyda criw o hanner cant yn mynd gyda Aled ar y daith o Fanceinion fore Iau nesaf. Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i wefan Gwyl Genedlaethol Gogledd America lle mae rhestr o'r holl ddigwyddiadau'r penwythnos. Gwefan Gwyl Gymreig Gogledd America TACHWEDD 2010 : NEWYDDION HAPUS - MERCH FACH I ALED A KARINA!![]() Aled ac Aria Wyn!! Wel, mae wedi bod yn dawel iawn ar y dudalen newyddion yn ddiweddar, er bod digon wedi digwydd dros y misoedd diwethaf ym mywyd Aled Wyn Davies. Ond y newyddion hapusaf ddaeth ar Hydref y 27ain, pan ganwyd merch fach i Aled a Karina yn pwyso 7 pwys, 11 owns. Mae'r teulu bach yn hapus iawn, a dydi Aria fach ddim yn cadw dad a mam ar ddihun gormod yn y nos!!Wel, dim eto!! Dyma lun o Aria Wyn gyda'i thad wedi dod adre! Bydd adroddiad yma yn fuan ar daith Aled i wlad yr Ia ar long fordaith, ac hefyd Newyddion am daith arall i Aled i'r Unol Daleithau yn 2011!! GORFFENNAF 2010 : MORDAITH I WLAD YR IA I ALED!![]() y Llong Fordaith Minerva I cwmni'r Soprano, Diana Palmerston; Sian Meinir, Mezzo; ar gyfeilyddes Eirian Owen. Mae'n siwr y bydd hi'n daith i'w chofio. Bydd mwy o fanylion y daith ar gael yma'n fuan. Bon Voyage!! Am fwy o fanylion y fordaith, cliciwch ar y ddolen yma i fynd i wefan Swan Hellenic >> Gwefan Swan Hellenic IONAWR 2010 : ALED YN CANU I GYMRY LOS ANGELES AM Y TRYDYDD TROBaner UDA Bydd Aled yn dychwelyd am y trydydd tro i Los Angeles ddiwedd mis Chwefror i berfformio yn Nghyngerdd blynyddol Gwyl Ddewi Eglwys Cymraeg Los Angeles yn yr Unol Daleithau. Yn dilyn llwyddiant ei ymweliadau yno yn 2003 a 2004, mae Aled yn edrych ymlaen yn fawr iawn, ac yn ddiolchgar iawn i drigolion yr Eglwys Gymraeg am ei wahodd yn ôl eto! Bydd Aled a Karina yn hedfan allan rhai dyddiau yn gynt, a bydd cyfle mae'n siwr i weld dipyn o'r ddinas a thramwyo strydoedd disglaer Hollywood cyn dod adre i brysurdeb y tymor wyna adre ar y ffarm!!! ![]() Eglwys Presbyteraidd Cymraeg Los Angeles Dyma ddolen i wefan yr Eglwys yn Los Angeles >>> Gwefan yr Eglwys Bydd adroddiad o'r daith ar gael yma yn fuan ym mis Mawrth, gan gynnwys Newyddion am daith arall dros y dŵr i Aled ym mis Awst!! Mae Newyddion cyn y flwyddyn 2010 wedi symud i dudalen newydd "Archif" i wneud lle i'r newyddion diweddaraf. Cliciwch ar y linc uchod am yr holl newyddion a'r lluniau dros y blynyddoedd | |
|
|