Y TENOR CYMRAEG
THE WELSH TENOR

NODAU AUR FY NGHÂN

Aled Wyn Davies, Tenor.

Rhestr traciau:
1. Gwlad y delyn
2. Mattinata Gwrandewch ar MP3
3. Y Ddraenen Wen
4. Anthem (o'r sioe "Chess")
5. O Na Byddain Haf o Hyd Gwrandewch ar MP3
6. Recondita armonia
7. Dy garu di o Dduw
8. Because Gwrandewch ar MP3
9. Tyrd oleu mwyn
10. Che Gelida Manina
11. Carol Catrin
12. I'll Walk Beside You
13. O Sanctaidd Nos
14. Rho fory i minnau
15. O Sole Mio

gydag Eirian Owen, Cyfeilydd
Recordiwyd yn Y Tabernacl, Machynlleth, Hydref 2006

Mae'r CD ar werth nawr am £12.95 yr un, gan gynnwys cludiant AM DDIM ledled y byd
Taliadau: Rydym yn defnyddio Paypal i brosesu'ch taliad yn ddiogel. Gallwch dalu gyda charden credyd neu eich cyfrif Paypal (os oes un gennych). D.S. Os oes cyfrif Paypal gennych, efallai bydd rhaid i chi 'sgrolio i lawr' i weld yr opsiwn 'Use your credit card'.

Cover of the CD
Profiad anhygoel oedd cael gwneud y recordiad arbennig hwn. Ar ôl blwyddyn gynhyrfus yn cystadlu mewn eisteddfodau ledled Cymru, canu gyda cherddorfa am y tro cyntaf a pherfformio ar fordeithiau mewn gwledydd tramor; y cam naturiol nesaf oedd recordio cryno-ddisg o'm hoff ganeuon.

Recordiwyd y cryno-ddisg yn y Tabernacl ym Machynlleth ddechrau mis Hydref, 2006. Cefais y fraint o gael Eirian Owen i gyfeilio i mi gan ei bod wedi fy hyfforddi i nawr am dros bymtheg mlynedd. Mae Eirian yn un o gyfeilyddion mwya talentog Ynysoedd Prydain ac roedd ei dawn a'i chyfraniad yn amhrisiadwy i'r cryno-ddisg hwn.

Dyma gasgliad o ganeuon arbennig o sawl arddull. Mae yma ganeuon Cymraeg o'r hen ganiadau i'r rhai mwy modern; dwy aria operatig gan Puccini a chaneuon poblogaidd Neapolitan; caneuon o'r sioeau cerdd, baledi Saesneg a charolau Nadoligaidd. Rhywbeth at ddant pawb. Gwrandewch a phrynwch nawr drwy glicio ar y ddolen ar y chwith.

Cliciwch ar y ddolen yma nawr i glywed caneuon gan Aled ar Myspace.com